2016 Rhif 386 (Cy. 120)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru yn unig—

(a)     yn darparu ar gyfer gorfodi neu weithredu’n barhaus Reoliadau a Chyfarwyddebau’r UE ar ddiogelwch bwyd anifeiliaid, bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig, ychwanegion bwyd anifeiliaid, marchnata a defnyddio bwyd anifeiliaid, sylweddau annymunol (halogion) mewn bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid at ddibenion maethol penodol;

(b)     yn darparu ar gyfer cyfeiriadau newidiadwy at offerynnau’r UE a bennir yn rheoliad 2(3);

(c)     yn rhagnodi troseddau a chosbau am fethu â chydymffurfio â’r Rheoliadau; ac

(d)     yn dirymu Rheoliadau penodol neu’n gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau penodol.

Yn Rhan 2 mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau penodedig Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd (OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1) drwy ei gwneud yn drosedd i fynd yn groes i’r darpariaethau hynny (rheoliad 4) a thrwy ddynodi’r awdurdodau cymwys at ddibenion yr offeryn UE hwnnw (rheoliad 5).

Yn Rhan 3 mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau penodedig Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t 1) (rheoliadau 7 ac 8).

Yn Rhan 4 mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau penodedig Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid (OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t 29) (rheoliad 10).

Yn Rhan 5 mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar roi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’i ddefnyddio, gan ddiwygio Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor a diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 80/511/EEC, Cyfarwyddebau’r Cyngor 82/471/EEC, 83/228/EEC, 93/74/EEC, 93/113/EC a 96/25/EC a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC (OJ Rhif L 229, 1.9.2009, t 1) (rheoliadau 12 a 13 ac Atodlen 1).

Yn Rhan 6 mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid (OJ Rhif L 140, 30.5.2002, t 10) (rheoliadau 14 a 15).

Yn Rhan 7 mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/38/EC sy’n sefydlu rhestr o’r defnydd y bwriedir ei wneud o fwydydd anifeiliaid at ddibenion maethol penodol (OJ Rhif L 62, 6.3.2008, t 9), (rheoliad 16 a 17).

Yn Rhan 8 mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi uchafswm y cosbau y caiff llys eu gosod ar euogfarn am drosedd o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 18) ac yn dynodi awdurdodau bwyd anifeiliaid lleol fel rhai sydd â’r ddyletswydd i orfodi (rheoliad 19).

Yn Rhan 9 mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (rheoliad 20) ac yn dirymu’n llwyr neu’n rhannol offerynnau penodol (rheoliad 21 ac Atodlen 2).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW neu ar wefan yr Asiantaeth yn www.food.gov.uk/wales.


2016 Rhif 386 (Cy. 120)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016

Gwnaed                               15 Mawrth 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       17 Mawrth 2016

Yn dod i rym                              12 Mai 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 66, 68, 74A a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970([1]) ac adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([2]) a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion rheoli a rheoleiddio rhyddhau’n fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu rhoi ar y farchnad a’u symudiadau trawsffiniol([3]), mesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd neu a fwydir iddynt([4]), mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd([5]) a mesurau mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd([6]).

Fel y nodir uchod, mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at yr Atodiadau i offerynnau’r UE a grybwyllir yn rheoliad 2(3) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Bu ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod y cyfnod o lunio’r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([7]) neu, yn achos darpariaethau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970.

RHAN 1

Cyflwyniad a chyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Mai 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli a chwmpas

2.(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr Asiantaeth (“the Agency”) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd;

ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw awdurdod a nodir yn adran 67(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 fel awdurdod sydd â’r ddyletswydd i orfodi Rhan IV o’r Ddeddf honno o fewn ei ardal;

ystyr “Cyfarwyddeb 82/475” (“Directive 82/475”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 82/475/EEC sy’n gosod y categorïau o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid y caniateir eu defnyddio at ddibenion labelu bwyd anifeiliaid cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid anwes([8]);

ystyr “Cyfarwyddeb 2002/32” (“Directive 2002/32”) yw Cyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid([9]);

ystyr “Cyfarwyddeb 2008/38” (“Directive 2008/38”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/38/EC sy’n sefydlu rhestr o’r defnydd y bwriedir ei wneud o fwydydd anifeiliaid at ddibenion maethol penodol([10]);

ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([11]);

ystyr “Rheoliad 767/2009” (“Regulation 767/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar roi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’i ddefnyddio, sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 80/511/EEC, Cyfarwyddebau’r Cyngor 82/471/EEC, 83/228/EEC, 93/74/EEC, 93/113/EC a 96/25/EC a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC([12]);

ystyr “Rheoliad 1829/2003” (“Regulation 1829/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig([13]);

ystyr “Rheoliad 1831/2003” (“Regulation 1831/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid([14]).

(2) Mae gan unrhyw ymadrodd a ddefnyddir y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002, Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd ganddo yn y Rheoliad UE o dan sylw.

(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Atodiad i Gyfarwyddeb 82/475, Cyfarwyddeb 2002/32, Cyfarwyddeb 2008/38, Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

(4) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw ychwanegyn bwyd anifeiliaid yng nghategori (d) neu (e) o Erthygl 6(1) of Reoliad 1831/2003, ac eithrio’r rheini yn y grwpiau swyddogaethol a restrir ym mharagraff 4(a), (b) ac (c) o Atodiad 1 i’r Rheoliad hwnnw([15]).

RHAN 2

Gorfodi Rheoliad 178/2002

Dehongli’r Rhan hon

3. Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 178/2002.

Y drosedd o fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig yn Rheoliad 178/2002

4.(1) Mae person sy’n mynd yn groes i ddarpariaeth a bennir ym mharagraff (2) neu sy’n methu â chydymffurfio â hi yn cyflawni trosedd.

(2) Y darpariaethau penodedig yw—

(a)     Erthygl 12, i’r graddau y mae’n ymwneud â bwyd anifeiliaid (amodau ar allforio neu ailallforio i drydydd gwledydd);

(b)     Erthygl 15(1) (gwaharddiad ar roi bwyd anifeiliaid anniogel ar y farchnad neu ei fwydo i unrhyw anifail);

(c)     Erthygl 16, i’r graddau y mae’n ymwneud â bwyd anifeiliaid (gwaharddiad ar labelu, hysbysebu neu gyflwyno camarweiniol);

(d)     Erthygl 18(2) a (3) (gofynion bod rhaid i weithredwyr gael gwybodaeth olrhain a rhoi gwybodaeth o’r fath ar gael i’r awdurdodau cymwys) i’r graddau y mae’n ymwneud â gweithredwyr busnes bwyd anifeiliaid; ac

(e)     Erthygl 20 (cyfrifoldebau gweithredwyr busnes bwyd anifeiliaid o ran bwyd anifeiliaid nad yw’n bodloni gofynion diogelwch bwyd anifeiliaid).

Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 178/2002

5. Yr awdurdod cymwys—

(a)     at ddibenion Erthyglau 15 a 18 yw’r awdurdod bwyd anifeiliaid yn ei ardal; a

(b)     at ddibenion Erthygl 20 yw’r awdurdod bwyd anifeiliaid yn ei ardal neu’r Asiantaeth.

RHAN 3

Gorfodi Rheoliad 1829/2003

Dehongli’r Rhan hon

6. Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 1829/2003.

Y drosedd o fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig yn Rheoliad 1829/2003

7.(1) Mae person sy’n mynd yn groes i ddarpariaeth a bennir ym mharagraff (2) neu sy’n methu â chydymffurfio â hi yn cyflawni trosedd.

(2) Y darpariaethau penodedig yw—

(a)     Erthygl 16(2) (gwaharddiad ar roi ar y farchnad, defnyddio neu brosesu cynnyrch y cyfeirir ato yn Erthygl 15(1)([16]) oni bai ei fod wedi ei gwmpasu gan awdurdodiad a’i fod yn bodloni amodau perthnasol), fel y’i darllenir gydag Erthygl 20(6) (gofyniad bod rhaid i gynhyrchion y mae’r Comisiwn wedi mabwysiadu mesur o dan yr Erthygl hon mewn perthynas â hwy gael eu tynnu’n ôl o’r farchnad);

(b)     Erthygl 21(1) (gofyniad bod rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad a’r partïon o dan sylw gydymffurfio â’r amodau a osodir ar awdurdodiad ar gyfer y cynnyrch hwnnw, a bod rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gydymffurfio â gofynion monitro ar ôl i’r cynnyrch gael ei roi ar y farchnad);

(c)     Erthygl 21(3) (gofyniad bod deiliad awdurdodiad yn hysbysu’r Comisiwn am unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd am gynnyrch a allai effeithio ar y gwerthusiad o ddiogelwch ei ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid, neu am unrhyw waharddiad neu gyfyngiad ar y bwyd anifeiliaid mewn trydedd wlad); a

(d)     Erthygl 25 (gofyniad am fynegiadau labelu penodol).

Yr awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad 1829/2003

8. Yr Asiantaeth yw’r awdurdod cymwys cenedlaethol at ddibenion Pennod III o Reoliad 1829/2003.

RHAN 4

Gorfodi Rheoliad 1831/2003

Dehongli’r Rhan hon

9. Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 1831/2003.

Y drosedd o fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig yn Rheoliad 1831/2003

10.(1) Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n  mynd yn groes i ddarpariaeth, neu’n methu cydymffurfio â darpariaeth, a bennir ym mharagraff (2) fel y’i darllenir, yn achos is-baragraff (a) neu (e), gydag Erthygl 2 (darpariaeth drosiannol) o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 2015/327 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gofynion ynghylch rhoi ar y farchnad ac amodau defnyddio ychwanegion sy’n cynnwys paratoadau([17]).

(2) Y darpariaethau penodedig yw—

(a)     Erthygl 3(1) (gwaharddiad ar roi ar y farchnad, prosesu neu ddefnyddio ychwanegyn bwyd oni bai ei fod wedi ei gwmpasu gan awdurdodiad a’i fod yn bodloni amodau perthnasol), fel y’i darllenir gyda pharagraff (2) (awdurdodiad cenedlaethol at ddibenion arbrofol gwyddonol), paragraff (4) (amodau ar gymysgu ychwanegion) ac Erthygl 10 (statws cynhyrchion presennol);

(b)     Erthygl 3(3) (cyfyngiad ar y personau a gaiff roi ar y farchnad am y tro cyntaf ychwanegion penodol);

(c)     Erthygl 12(1) (gofyniad bod rhaid i unrhyw berson sy’n defnyddio neu’n rhoi ar y farchnad ychwanegyn, neu fwyd anifeiliaid y mae’r ychwanegyn wedi ei gynnwys ynddo, neu unrhyw barti arall a chanddo fuddiant, sicrhau bod unrhyw amodau sydd wedi eu gosod yn cael eu parchu);

(d)     Erthygl 12(2) (gofyniad bod deiliad awdurdodiad yn cadw at rwymedigaethau monitro pan fyddant wedi eu gosod, yn hysbysu’r Comisiwn am unrhyw wybodaeth newydd am gynnyrch a allai effeithio ar y gwerthusiad o ddiogelwch ei ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid, neu am unrhyw waharddiad neu gyfyngiad ar y bwyd anifeiliaid sydd wedi ei osod gan yr awdurdod cymwys mewn trydedd wlad);

(e)     Erthygl 16(1), (3) a (4) (gwaharddiad ar roi ar y farchnad ychwanegion bwyd anifeiliaid neu rag-gymysgeddau oni bai eu bod wedi eu labelu yn y modd penodedig ac â’r wybodaeth ragnodedig), fel y’i darllenir gyda pharagraff (2) (rhanddirymiad ar gyfer cyfansoddion blasu penodol); ac

(f)      Erthygl 16(5) (gofyniad bod rhaid i ychwanegion a rhag-gymysgeddau gael eu marchnata mewn pecynnau neu gynwysyddion caeedig y mae rhaid eu bod wedi eu cau yn y fath ffordd fel bod y sêl yn cael ei difrodi wrth agor y pecynnau neu’r cynwysyddion ac na ellir eu hailddefnyddio).

RHAN 5

Gorfodi Rheoliad 767/2009

Dehongli’r Rhan hon ac Atodlen 1

11. Yn y Rhan hon ac yn Atodlen 1 mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl neu’r Atodiad sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 767/2009.

Y drosedd o fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig yn Rheoliad 767/2009

12.(1) Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol a geir yn Erthygl 32, mae person—

(a)     sy’n mynd yn groes i ddarpariaeth yn Rheoliad 767/2009 a bennir yn Atodlen 1 neu sy’n methu â chydymffurfio â hi; neu

(b)     sy’n rhoi ar y farchnad neu’n defnyddio bwyd anifeiliaid sy’n methu â chydymffurfio ag Erthygl 6(1) neu 8,

yn cyflawni trosedd.

(2) Pan ganiateir, yn unol ag Erthygl 17(2)(c), i enw’r categori y mae’r bwyd anifeiliaid yn perthyn iddo gael ei roi yn lle enw deunydd bwyd anifeiliaid penodol, dim ond y categorïau a restrir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 82/475 y caniateir eu nodi.

Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 767/2009

13.(1) Pob awdurdod bwyd anifeiliaid yn ei ardal yw’r awdurdod cymwys at ddibenion—

(a)     Erthygl 5(3), 13(1)(a) a 17(3) ac Atodiad VII, Pennod 1, paragraff 8; a

(b)     Erthygl 13(1)(b) fel yr awdurdod cymwys a gaiff ofyn am gadarnhad gwyddonol o honiad ac y mae gan bwrcaswyr yr hawl i ddwyn amheuon ynghylch gwirionedd honiad i’w sylw.

(2) Yr Asiantaeth yw’r awdurdod cymwys at ddibenion—

(a)     Erthygl 26(1)(b); a

(b)     Erthygl 13(1)(b) fel yr awdurdod cymwys a gaiff gyflwyno i’r Comisiwn amheuon ynghylch cadarnhad gwyddonol o honiad.

(3) Mae’r Asiantaeth a phob awdurdod bwyd anifeiliaid yn ei hardal yn awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 5(2).

RHAN 6

Gweithredu Cyfarwyddeb 2002/32

Dehongli’r Rhan hon

14. Yn y Rhan hon—

(a)     mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl neu’r Atodiad sy’n dwyn y rhif hwnnw yng Nghyfarwyddeb 2002/32; a

(b)     ystyr “sylwedd annymunol” (“undesirable substance”) yw unrhyw sylwedd neu gynnyrch, nad yw’n asiant pathogenig, sy’n bresennol mewn bwyd anifeiliaid neu arno ac—

                           (i)    sy’n ffurfio perygl posibl i iechyd pobl neu anifeiliaid neu i’r amgylchedd, neu

                         (ii)    a allai gael effaith andwyol ar gynhyrchu da byw.

Rheoli bwydydd anifeiliaid sy’n cynnwys sylweddau annymunol

15.(1) Mae person—

(a)     sy’n rhoi ar y farchnad unrhyw fwyd anifeiliaid a bennir yng ngholofn 2 o Atodiad I; neu

(b)     sy’n defnyddio unrhyw fwyd anifeiliaid o’r fath,

yn cyflawni trosedd os yw’n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a restrir yng ngholofn 1 o’r Atodiad hwnnw yn fwy nag uchafswm y cynnwys perthnasol a bennir yng ngholofn 3.

(2) Mae person sy’n rhoi ar y farchnad neu’n defnyddio unrhyw fwyd anifeiliaid cydategol yn cyflawni trosedd os—

(a)     ar ôl ystyried faint ohono yr argymhellir ei ddefnyddio mewn dogn dyddiol, yw’n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a restrir yng ngholofn 1 o Atodiad I yn fwy nag uchafswm y cynnwys a bennir ar ei gyfer yng ngholofn 3 mewn perthynas â bwydydd anifeiliaid cyflawn; a

(b)     nad oes darpariaeth sy’n ymwneud ag unrhyw fwyd anifeiliaid cydategol yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Atodiad hwnnw.

(3) Mae person sydd at ddiben gwanhau yn cymysgu unrhyw fwyd anifeiliaid â bwyd anifeiliaid a bennir yng ngholofn 2 o Atodiad I ac sy’n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a restrir yng ngholofn 1 o’r Atodiad hwnnw yn fwy nag uchafswm y cynnwys a bennir ar ei gyfer yng ngholofn 3 yn cyflawni trosedd.

(4) Mae person sy’n rhoi ar y farchnad neu’n defnyddio unrhyw fwyd anifeiliaid nad yw’n gadarn ac yn ddilys ac o ansawdd marchnadwy yn cyflawni trosedd.

(5) At ddibenion paragraff (4) ni thybir bod bwyd anifeiliaid a restrir yng ngholofn 2 o Atodiad I yn gadarn, yn ddilys ac o ansawdd marchnadwy os yw’n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a bennir yng ngholofn 1 o’r Atodiad hwnnw yn fwy nag uchafswm y cynnwys a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 3.

(6) Rhaid i berson sydd ag unrhyw un neu ragor o’r bwydydd anifeiliaid a bennir ym mharagraff (7) yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth, at ddiben masnach neu fusnes, os yw arolygydd yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, gael dadansoddiad a’i roi i’r arolygydd er mwyn dangos bod cynnwys yr arsenig anorganig yn y bwyd anifeiliaid a bennir yn y paragraff hwnnw yn llai na 2 ran y filiwn.

(7) Y bwydydd anifeiliaid yw—

(a)     soeg cnewyll palmwydd;

(b)     bwydydd anifeiliaid a gafwyd drwy brosesu pysgod ac anifeiliaid morol eraill;

(c)     blawd gwymon a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n deillio o wymon; a

(d)     bwydydd anifeiliaid cyflawn ar gyfer pysgod neu ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu ffwr.

(8) Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â gofyniad a wneir o dan baragraff (6) yn cyflawni trosedd.

RHAN 7

Gweithredu Cyfarwyddeb 2008/38

Dehongli’r Rhan hon

16. Yn y Rhan hon, ystyr “yr Atodiad” (“the Annex”) yw Rhan B o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2008/38, fel y’i darllenir gyda pharagraffau 1 a 7 o Ran A o’r Atodiad hwnnw.

Rheoli bwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol penodol

17.(1) Mae person sy’n rhoi ar y farchnad fwyd anifeiliaid a fwriedir at ddiben maethol penodol yn cyflawni trosedd os nad yw gofynion perthnasol paragraffau (2) i (9) wedi eu bodloni.

(2) Mewn perthynas ag unrhyw ddiben maethol penodol a bennir yng ngholofn 1 o’r Atodiad—

(a)     rhaid i’r bwyd anifeiliaid fod wedi ei fwriadu ar gyfer yr anifeiliaid a bennir gyferbyn â’r diben maethol penodol hwnnw yng ngholofn 3 o’r Atodiad; a

(b)     rhaid argymell bod y bwyd anifeiliaid yn cael ei ddefnyddio am gyfnod o amser sy’n dod o fewn yr amrediad a bennir gyferbyn â’r diben maethol penodol hwnnw yng ngholofn 5 o’r Atodiad.

(3) Pan fo grŵp o ychwanegion wedi ei bennu yng ngholofn 2 neu 4 o’r Atodiad, rhaid i’r ychwanegion a ddefnyddir fod wedi eu hawdurdodi fel rhai sy’n cyfateb i’r nodwedd hanfodol benodedig.

(4) Pan fo’n ofynnol rhoi ffynhonnell cynhwysion neu gyfansoddion dadansoddol yng ngholofn 4 o’r Atodiad, rhaid i’r gweithgynhyrchwr wneud datganiad manwl-gywir (er enghraifft enw penodol y cynhwysyn, rhywogaeth yr anifail neu’r rhan o’r anifail) sy’n caniatáu ar gyfer gwerthuso cydymffurfiaeth y bwyd anifeiliaid â’r nodweddion maethol hanfodol cyfatebol.

(5) Pan fo’n ofynnol rhoi’r datganiad am sylwedd sydd hefyd wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn yng ngholofn 4 o’r Atodiad a’i fod yn dod gyda’r ymadrodd “total”, rhaid i’r cynnwys a ddatgenir gyfeirio at faint sy’n bresennol yn naturiol pan na chaiff unrhyw swm ei ychwanegu neu, fel y bo’n briodol, at gyfanswm y sylwedd sy’n bresennol yn naturiol a’r swm a ychwanegir fel ychwanegyn.

(6) Rhaid darparu’r datganiadau a bennir yng ngholofn 4 o’r Atodiad gyda’r cyfeiriad “if added” pan fo’r cynhwysyn neu’r ychwanegyn wedi ei ymgorffori neu ei gynyddu’n benodol er mwyn gallu cyflawni’r diben maethol penodol.

(7) Rhaid i’r datganiadau sydd i gael eu rhoi yn unol â cholofn 4 o’r Atodiad ynghylch cyfansoddion dadansoddol ac ychwanegion fod yn rhai meintiol.

(8) Pan fo bwyd anifeiliaid wedi ei fwriadu i gyflawni mwy nag un diben maethol penodol, rhaid iddo gydymffurfio â’r cofnodion cyfatebol yn yr Atodiad.

(9) Yn achos bwyd anifeiliaid cydategol a fwriedir at ddiben maethol penodol, rhaid rhoi canllawiau ar gydbwysedd y dogn dyddiol yn y cyfarwyddiadau defnyddio a geir ar y label.

RHAN 8

Gweinyddu a gorfodi

Cosbau am droseddau o dan y Rheoliadau hyn

18.(1) Mae person a ddyfernir yn euog o drosedd o dan reoliad 4(1), 7(1), 10(1), 12(1), 15(1), (2), (3), neu (4) neu 17(1) yn agored ar euogfarn ddiannod i gyfnod yn y carchar nad yw’n hwy na chwe mis neu i ddirwy, neu i’r ddau.

(2) Mae person a ddyfernir yn euog o drosedd o dan reoliad 15(8) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Dyletswyddau i orfodi

19. Mae’n ddyletswydd ar bob awdurdod bwyd anifeiliaid yn ei ardal i weithredu a gorfodi Rheoliad 178/2002, Rheoliad 1829/2003, Rheoliad 1831/2003, Rheoliad 767/2009 a’r Rheoliadau hyn.

RHAN 9

Diwygio a dirymu

Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

20.(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009([18]) wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).

(2) Yn Atodlen 2 (diffiniad o gyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol)—

(a)     hepgorer paragraff (c); a

(b)     ym mharagraff (dd), yn lle “Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2010” rhodder “Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016”.

Dirymiadau

21. Mae’r Rheoliadau a restrir yn y golofn gyntaf o Atodlen 2 wedi eu dirymu i’r graddau a bennir yn yr ail golofn.

 

 

Vaughan Gething

Y Dirprwy Weinidog Iechyd, un o Weinidogion Cymru

15 Mawrth 2016

                    ATODLEN 1       Rheoliad 12

Darpariaethau Penodedig Rheoliad 767/2009

Y ddarpariaeth benodedig

Y pwnc

Erthygl 4(1) a (2), fel y’i darllenir gydag Erthygl 4(3) ac Atodiad I

Gofynion diogelwch cyffredinol a gofynion eraill sydd i gael eu bodloni pan roddir bwyd anifeiliaid ar y farchnad neu pan y’i defnyddir

Erthygl 5(1)

Estyn y gofynion mewn perthynas â bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd mewn deddfwriaeth arall i fod yn gymwys i fwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd

Erthygl 5(2), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)

Rhwymedigaeth ar berson sy’n gyfrifol am labelu i roi’r wybodaeth ar gael i’r awdurdod cymwys

Erthygl 6(1), fel y’i darllenir gydag Atodiad III

Gwaharddiad neu gyfyngiad ar farchnata neu ddefnyddio deunyddiau penodol at ddibenion maeth anifeiliaid

Erthygl 8

Rheolaethau ar y lefelau o ychwanegion mewn bwydydd anifeiliaid

Erthygl 9

Rheolaethau ar farchnata bwydydd anifeiliaid at ddibenion maethol penodol

Erthygl 11, fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3), Atodiadau II a IV a’r Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid

Rheolau ac egwyddorion sy’n llywodraethu labelu a chyflwyno bwyd anifeiliaid

Erthygl 12(4) a (5)

Dynodiad y person sy’n gyfrifol am labelu a rhwymedigaethau a chyfrifoldebau’r person hwnnw

Erthygl 13(1), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)

Amodau cyffredinol ar wneud honiad ynghylch nodweddion neu swyddogaethau bwyd anifeiliaid wrth ei labelu neu ei gyflwyno

Erthygl 13(2) a (3), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)

Amodau arbennig sy’n gymwys i honiadau ynghylch gwneud yr eithaf o’r maeth ac ynghylch cynnal neu warchod yr amodau ffisiolegol

Erthygl 14(1) a (2), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)

Gofynion ar gyfer cyflwyno’r manylion labelu mandadol

Erthygl 15, fel y’i darllenir gydag Erthyglau 12(1), (2) a (3) ac 21 a chydag Atodiad VI a VII

Manylion labelu mandadol cyffredinol ar gyfer deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwydydd anifeiliaid cyfansawdd

Erthygl 16, fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3) ac 21 a chydag Atodiad II a V a’r Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid

Gofynion labelu penodol ar gyfer deunyddiau bwyd anifeiliaid

Erthygl 17(1) a (2), fel y’i darllenir gydag Erthyglau 12(1), (2) a (3) ac 21 a chydag Atodiad II, VI a VII

Gofynion labelu penodol ar gyfer bwydydd anifeiliaid cyfansawdd

Erthygl 18, fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)

Gofynion labelu ychwanegol ar gyfer bwyd anifeiliaid at ddibenion maethol penodol (bwydydd anifeiliaid deietegol)

Erthygl 19, fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)

Gofynion labelu ychwanegol ar gyfer bwyd anifeiliaid anwes

Erthygl 20(1), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3) a chydag Atodiad VIII

Gofynion ychwanegol ar gyfer labelu bwyd anifeiliaid nad yw’n cydymffurfio, megis bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys deunyddiau halogedig

Erthygl 23

Gofynion sy’n ymwneud â phecynnu a selio deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwydydd anifeiliaid cyfansawdd ar gyfer eu rhoi ar y farchnad

Erthygl 24(5)

Gofyniad, os defnyddir enw deunydd bwyd anifeiliaid a restrir yn y Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid, fod rhaid cydymffurfio â holl ddarpariaethau perthnasol y Catalog

Erthygl 24(6)

Rhwymedigaeth ar berson sy’n rhoi ar y farchnad am y tro cyntaf ddeunydd bwyd anifeiliaid nad yw wedi ei restru yn y Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid i hysbysu am ei ddefnydd

Erthygl 25(4)

Gofyniad, os nodir y defnydd o Godau’r UE o arferion labelu da ar labeli, fod rhaid cydymffurfio â holl ddarpariaethau perthnasol y Codau

                    ATODLEN 2       Rheoliad 21

Dirymiadau

 

Rheoliadau

Rhychwant

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004 (O.S. 2004/3221) (Cy. 277)

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Glwten Ŷd a Grawn Bragu) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2007 (O.S. 2007/3173) (Cy. 278)

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2652) (Cy. 220)

Y Rheoliadau cyfan ac eithrio rheoliadau 1, 2 a 14.

 

 



([1])           1970 p. 40. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Mewnosodwyd adran 74A gan baragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68). Diwygiwyd adran 84 gan O.S. 2004/3254.

([2])           1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

([3])           O.S. 2003/2901. Mae’r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi.

([4])           O.S. 2005/1971. Mae’r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi. Nid yw’r dynodiad yn estyn i fesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cynhyrchion meddyginiaethol (gan gynnwys rheolyddion twf) neu gynhyrchion meddyginiaethol y bwriedir eu defnyddio mewn bwyd anifeiliaid, ac eithrio darpariaeth sy’n ymwneud â sylweddau gwella treuliadwyedd, sefydlogyddion fflora’r perfedd, neu sylweddau sy’n cael effaith ffafriol ar yr amgylchedd.

([5])           O.S. 2008/1792.

([6])           O.S. 2010/2690. Nid yw’r dynodiad yn estyn i wneud darpariaeth mewn cysylltiad â bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cynhyrchion meddyginiaethol y bwriedir eu defnyddio mewn bwyd anifeiliaid, ac eithrio darpariaeth sy’n ymwneud â sylweddau sy’n cael effaith ffafriol ar yr amgylchedd, sylweddau gwella treuliadwyedd, neu sefydlogyddion fflora’r perfedd.

([7])           OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t 1).

 

([8])           OJ Rhif L 213, 21.7.1982, t 27. Diwygiwyd y Gyfarwyddeb hon ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 98/67/EC (OJ Rhif L 261, 24.9.1998, t 10).

([9])           OJ Rhif L 140, 30.5.2002, t 10. Diwygiwyd y Gyfarwyddeb hon ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 2015/186 (OJ Rhif L 31, 7.2.2015, t 11).

([10])         OJ Rhif L 62, 6.3.2008, t 9. Diwygiwyd y Gyfarwyddeb hon ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1123/2014 (OJ Rhif L 304, 23.10.2014, t 81).

([11])         OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, p 1).

([12])         OJ Rhif L 229, 1.9.2009, t 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 939/2010 (OJ Rhif L 277, 21.10.2010, t 4).

([13])         OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 298/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 97, 9.4.2008, t 64).

([14])         OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t 29. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 2015/2294 (OJ Rhif L 324, 10.12.2015, t 3).

([15])         Mae categorïau (d) ac (e) o Erthygl 6(1) yn cynnwys, yn eu trefn, ychwanegion sootechnegol, a chocsidiostatau a histomonostatau. Mae’r grwpiau swyddogaethol a restrir ym mharagraffau 4(a), (b) ac (c) o Atodiad I yn cynnwys sylweddau gwella treuliadwyedd, sefydlogyddion fflora’r perfedd a sylweddau sy’n cael effaith ffafriol ar yr amgylchedd.

([16])         Y cynhyrchion y cyfeirir atynt yn Erthygl 15(1) yw organeddau a addaswyd yn enetig i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid, bwyd anifeiliaid sydd wedi ei wneud o organeddau a addaswyd yn enetig, neu sy’n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig a bwyd anifeiliaid a gynhyrchir o organeddau a addaswyd yn enetig.

([17])         OJ Rhif L 58, 3.3.2015, t 46.

([18])         O.S. 2009/3376 (Cy. 298).